With four weeks to go until the next Senedd Elections in Wales, we’ve launched Understanding Devolution in Wales, a brand-new, free course on OpenLearn, the OU’s free learning site.
Gyda phedair wythnos i fynd tan yr Etholiadau Senedd nesaf yng Nghymru, rydym wedi lansio’r cwrs Deall Datganoli yng Nghymru, cwrs newydd sbon, rhad ac am ddim ar OpenLearn, safle dysgu rhad ac am ddim y Brifysgol Agored.
Understanding Devolution in Wales takes learners on a journey from 1979 to the present day to understand the people and events that have influenced devolution.
Mae Deall Datganoli yng Nghymru yn mynd â dysgwyr ar daith o 1979 hyd heddiw i ddeall y bobl a'r digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar ddatganoli.
The online course includes interactive activities and an exclusive interview with Professor Roger Awan-Scully. It's free and completely flexible, which means you can dip in and out of it as you like, whenever suits you.
Mae'r cwrs ar-lein yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol a chyfweliad arbennig gyda'r Athro Roger Awan-Scully. Mae'n rhad ac am ddim ac yn gwbl hyblyg, sy'n golygu y gallwch ei astudio fel y dymunwch, pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi.
We’re really excited to be offering this course to people in Wales and beyond. Register here to get started on the course, and learn even more about devolution in Wales.
Rydyn ni'n falch iawn i gynnig y cwrs hwn i bobl yng Nghymru a thu hwnt. Cofrestrwch yma i ddechrau ar y cwrs, a dysgu mwy fyth am ddatganoli yng Nghymru.
The Open University in Wales | Y Brifysgol Agored yng Nghymru
18 Custom House St, Cardiff 18 Heol y Tollty, Caerdydd CF10 1AP
The Open University is incorporated by Royal Charter (RC 000391), an exempt charity in England & Wales, and a charity registered in Scotland (SC 038302). The Open University is authorised and regulated by the Financial Conduct Authority.
Mae'r Brifysgol Agored yn gorfforedig drwy Siarter Brenhinol (RC000391), yn elusen a eithrir yng Nghymru a Lloegr ac yn elusen gofrestredig yn yr Alban (SC038302). Awdurdodir a rheoleiddir Y Brifysgol Agored gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.